vs
Llandudno RFCRecap
Diolch i/Thanks to Ifor Glyn
NANT CONWY – 45 v LLANDUDNO – 7
Sgorwyr Nant Conwy scorers:
Ceisiau / Tries : Gwion Jones (3), Ellis Fôn, Deian Roberts, Cai Jones & Caron Davies
Trosiadau / Conversions : Caron Davies (5)
Pan yn blentyn, roeddwn yn chwarae gemau ‘Ymosod ag Amddiffyn’ gyda chriw bychan o fy ffrindiau pȇl-droed. Tybiaf fod y term hwnnw o ‘ymosod ag amddiffyn’ yn hynod addas am y gȇm hon.
Yn ystod y chwarter cyntaf, gwelwyd Nant yn ymosod yn gyson a’r ymwelwyr yn ceisio’u gorau i amddiffyn. Wedi 4 munud o chwarae, gwelwyd rhif 13 Nant, Gwion Jones, yn sgorio’i gais cyntaf allan o dri. Nant yn pasio’r bȇl o’r chwith i’r dde rhwng y cefnwyr yn ‘22’ Llandudno ag yna, yn ôl i’r chwith lle bu i Gwion groesi’n y gornel.
Wedi 10 munud o chwarae, enillodd Nant dafliad i mewn, eto y nagos i linell yr ymwelwyr. Pasiwyd y bȇl ymysg y cefnwyr eto a bu i Ellis Fôn (rhif 10) ddod ar lŵp i groesi am yr ail gais – un a droswyd gan Caron Davies (12 – Capten)
Ar 17 munud, enillodd Nant sgrym fymryn yn eu hanner eu hunain a chyda phasio cywrain eto ymysg y cefnwyr, plymiodd Gwion trosodd am ei ail gais o’r gȇm.
Am ail chwarter yr hanner cyntaf gwelwyd newid yn y chwarae gyda Llandudno’n ymosod a Nant yn amddiffyn yn gadarn. Y duedd oedd i’r ymwelwyr gario’r bȇl ymysg y blaenwyr heb ennill fawr o dir. Ni sgoriwyd unrhyw bwyntiau’n y cyfnod hwn.
Am 10 munud cyntaf yr ail hanner, ni newidiodd y patrwm unwaith eto gyda’r ymwelwyr yn parhau i ymosod yn gyson. Ond, enillodd Nant y bȇl mewn ryc y tu allan i’w ‘22’ eu hunain ag i ffwrdd a’r cefnwyr gan orffen y symudiad wrth i Deian Roberts (14) sgorio ger y pyst a llwyddodd Caron gyda’r trosiad i ennill y pwynt bonws am sgorio 4 cais.
Dychwelyd i’r un patrwm wedyn gyda Llandudno’n chwarae ymysg y blaenwyr a Nant yn amddiffyn yn ddyfal. Ond, wedi 34 munud o’r ail hanner, bu i Nant gael gafael ar y bȇl yn eu hanner eu hunain a gwelwyd ymosodiad celfydd gan rai o’r cefnwyr ar yr asgell chwith a orffenodd gyda Gwion yn cael ei ‘hat tric’ o geisiau. Caron yn llwyddo gyda’r trosiad eto.
Dau funud yn ddiweddarach, bu i’r eilydd Cain Jones (22) ennill y bȇl mewn ryc yn dilyn cyfnod o bwyso ar linell yr ymwelwyr a phlymio trosodd am gais a droswyd gan Caron.
O’r ail ddechrau yn dilyn sgorio’r cais, gwelwyd blaenwyr Llandudno’n chware’n debyg i’r hyn a wnaethant drwy’r gȇm gyda’r gwahaniaeth y tro hwn i gais (a throsiad) gael ei sgorio yn dilyn cyfres o dair chwibanaid am gam ymddwyn gan Nant ychydig tu allan i’w llinel i roi sgôr o 38 – 7.
Ond nid dyma ddiwedd y sgorio. Yn eiliadau olaf y gȇm, gwelwyd chware tebyg i’r gwrthwynebwyr gan flaenwyr Nant y tro hwn gyda’r symuniad olaf, fwy neu lai, yn dod trwy bas hir i Caron a dorrodd drwodd i sgorio’r cais olaf a throsi’i gais ei hun.
Sgôr derfynol o 45 – 7 felly.
Dydd Sadwrn nesaf, gobeithia Nant chwarae y tîm arall o Sir Conwy sy’n chware yn Adran 1 y Gogledd,sef, Bae Colwyn. Bydd y gem honno i ffwrdd yn y Bae ag edrychir ymlaen yn fawr at ymweld ȃ’r Bae.
As a child, I used to play ‘Attack and Defence’ games with a small number of my football friends. I suppose that term ‘attack and defence’ is very fitting for this game.
During the first quarter, Nant was seen attacking constantly and the visitors trying their best to defend. After 4 minutes of play, Nant’s number 13, Gwion Jones, scored his first of three tries. Nant was passing the ball from left to right between the backs in Llandudno’s ‘22’ and then back to the left where Gwion managed to cross in the corner.
After 10 minutes of play, Nant won a throw-in, yet again close to the visitors’ line. The ball was passed among the backs again and Ellis Fôn (number 10) came on a loop to cross for the second try – one converted by Caron Davies (12 – Captain).
At 17 minutes, Nant won a scrum just in their own half and with some neat passing again among the backs, Gwion dived over for his second try of the game.
In the second quarter of the first half, there was a change in play with Llandudno attacking and Nant defending solidly. The tendency was for the visitors to carry the ball among the forwards without gaining much ground. No points were scored during this period.
For the first 10 minutes of the second half, the pattern did not change again, with the visitors continuing to attack consistently. However, Nant quickly won the ball outside their own ‘22’ and ran away from the defenders, finishing the move as Deian Roberts (14) scored near the posts, and Caron succeeded with the conversion to earn the bonus point for scoring 4 tries.
The match returned to the same pattern then with Llandudno playing among the forwards and Nant defending doggedly. But, after 34 minutes of the second half, Nant gained control of the ball in their own half and a clever attack was seen by some of the backs on the left wing, finishing with Gwion completing his ‘hat trick’ of tries. Caron succeeded with the conversion again.
Two minutes later, substitute Cain Jones (22) won the ball in a ruck following a period of pressure on the visitors’ line and dived over for a try which was converted by Caron.
From the restart following the scoring of the try, Llandudno’s forwards played similarly to what they had done throughout the game, but with the difference this time being that a try (and conversion) was scored following a series of three penalties for misconduct by Nant just outside their line to give a score of 38–7.
But this was not the end of the scoring. In the final moments of the game, similar play to that seen from the opponents was played by Nant. Nant’s forwards this time making the final move, more or less, through a long pass to Caron who broke through to score the final try which he converted himself.
Thus a final score of 45 – 7.
Next Saturday, hopefully Nant will play the other team from Conwy County who play in Division 1 North, namely, Colwyn Bay. That game will be away at the Bay and we are really looking forward to visiting the Bay.

Details
| Date | Time | League | Season |
|---|---|---|---|
| 24 January 2026 | 14:30 | Adran 1 Gogledd/League 1 North | 2025/26 |
Results
| Team | Points |
|---|---|
| Nant Conwy | 45 |
| Llandudno RFC | 7 |
Nant Conwy
| # | Player | Position | T | C | P | DG |
|---|---|---|---|---|---|---|
| 12 | Caron Rhys Davies | Centre | 1 | 5 | 0 | 0 |
| 1 | Anthony Kirkham | Prop Loose Head | 0 | 0 | 0 | 0 |
| 18 | Rhys Ap Gwyndaf 2 | Hooker | 0 | 0 | 0 | 0 |
| 6 | Brychan Dafydd | Flanker | 0 | 0 | 0 | 0 |
| 7 | Ifan Emyr Williams | Flanker | 0 | 0 | 0 | 0 |
| 8 | Carwyn Ellis | No 8 | 0 | 0 | 0 | 0 |
| 4 | Tomos Williams 17 | 2nd Row | 0 | 0 | 0 | 0 |
| 10 | Elis Fôn | Fly Half | 1 | 0 | 0 | 0 |
| 9 | Cai Jones | Scrum Half | 0 | 0 | 0 | 0 |
| 20 | Cain Jones 11 | Wing | 1 | 0 | 0 | 0 |
| 14 | Sion Pringle | Wing | 0 | 0 | 0 | 0 |
| 13 | Gwion Jones | Centre | 3 | 0 | 0 | 0 |
| 11 | Deian Roberts 20 | Wing | 1 | 0 | 0 | 0 |
| 5 | Brenig Hughes 19 | 2nd Row | 0 | 0 | 0 | 0 |
| 15 | Gruff Roberts | Full Back | 0 | 0 | 0 | 0 |
| 2 | Aron Llewelyn Jones 18 | Hooker | 0 | 0 | 0 | 0 |
| 17 | Aron Davies 4 | 2nd Row | 0 | 0 | 0 | 0 |
| 16 | Steve Williams 3 | Prop | 0 | 0 | 0 | 0 |
| 3 | Rowan Braunton 16 | Prop | 0 | 0 | 0 | 0 |
| 19 | Robin Davies 5 | Flanker | 0 | 0 | 0 | 0 |
| Total | 7 | 5 | 0 | 0 |
Llandudno RFC
| Position | T | C | P | DG |
|---|---|---|---|---|
| 1 | 1 | 0 | 0 |
| 7 | 1 |
| 5 | 1 |
| 0 | 0 |
| 0 | 0 |