DAL DY DIR – Gwobr Gofal Dros Eraill 2026/HOLD YOUR GROUND – Caring for Others Award 2026

Eleni, bydd Grŵp Dal Dy Dir yn cyflwyno’r wobr i unigolyn sydd wedi dangos gofal arbennig, caredigrwydd a chefnogaeth tuag at eraill yng Nghlwb Rygbi Nant Conwy.

Mae’r wobr yn cydnabod y rhai sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau eraill, boed hynny ar y cae neu oddi arno.

Gall yr unigolyn a enwebir fod yn unrhyw un sydd wedi dangos ymroddiad i ofalu am eraill ac i gryfhau ysbryd Dal Dy Dir.

Mae croeso i unrhyw un enwebu.

Os hoffech enwebu rhywun rydych yn teimlo sy’n haeddu’r gydnabyddiaeth hon, llenwch y ffurflen gan roi ychydig o wybodaeth am y rhesymau dros eich enwebiad.

I enwebu rhywun ar gyfer y wobr hon, ewch i dudalen Facebook neu Instagram Dal Dy Dir Nant Conwy – Hold Your Ground.

Mae copïau papur o’r ffurflen enwebu hefyd ar gael yn y clwb, ynghyd â blwch post i gyflwyno’r ffurflenni wedi’u llenwi.

This year, Dal Dy Dir / Hold Your Ground will present the award to an individual who has shown exceptional care, kindness and support towards others at Nant Conwy Rugby Club.

The award recognises those who make a positive difference to the lives of others, whether on or off the pitch.

The person nominated could be anyone who has shown a commitment to caring for others and strengthening the spirit of Dal Dy Dir / Hold Your Ground

Anyone is welcome to make a nomination.

If you would like to nominate someone you feel deserves this recognition, please complete the form and tell us a little about the reasons for your nomination.

To nominate someone for this award, please visit the Dal Dy Dir Nant Conwy – Hold Your Ground Facebook or Instagram page.

Paper nomination forms are also available at the clubhouse, along with a postbox where you can submit your completed forms

Diwrnod Noddwyr/Sponsors Day

Nant Conwy’n Dathlu Diwrnod Noddwyr Llwyddiannus gyda Dwy Fuddugoliaeth
Cynhaliodd Clwb Rygbi Nant Conwy Ddiwrnod Noddwyr cofiadwy ddydd Sadwrn, 31ain Hydref, gan anrhydeddu’r partneriaid y mae eu cefnogaeth hanfodol yn parhau i yrru twf a llwyddiant parhaus y clwb.
Estynnodd y clwb ddiolch llawn i’r noddwyr sy’n dychwelyd a’r partneriaid newydd sy’n ymuno â theulu Nant Conwy, gan gydnabod bod eu haelioni parhaus yn bŵer sy’n gyrru llwyddiannau’r clwb ar y cae ac oddi arno.
Cafodd cefnogwyr a noddwyr ddiwrnod anhygoel o rygbi, gyda dwy fuddugoliaeth wych gartref:

  • Teirw Nant Conwy: Cadw eu dechrau perffaith i’r tymor, gan barhau’u cofnod enillwyr 100% yn gadarn gyda buddugoliaeth galed dros Bangor.
  • Nant Conwy 3ydd XV: Cymerasant gam cryf cyntaf wrth amddiffyn eu teitl Cwpan Adran 3 Gogledd Cymru, gan sicrhau buddugoliaeth anhygoel 32–10 dros Ail Dîm Y Bala.
    Mae Clwb Rygbi Nant Conwy yn dymuno diolch o galon unwaith eto i bob noddwr am eu hymroddiad a chefnogaeth anhygoel parhaus.

Diolch i Llew Jones Coaches

Diolch i Pen Y Bryn

Diolch i Garej Tÿ Gwyn

Diolch i Ffensio Morgan Dafydd

Diolch i Lanyon Bowlder, Solicitors

Diolch i Cwrw Nant

Diolch i Garaj Tÿ Gwyn

Diolch Dal Dy Dir

Diolch i Ffensio S E Metcalfe

Diolch i ALFA

Diolch i Pennant Finance, Garaj Tÿ Gwyn, MLO Engineering

Nant Conwy Celebrate Successful Sponsors Day with Double Victory

Nant Conwy Rugby Club hosted a memorable Sponsors Day on Saturday, 31 October, honoring the partners whose vital backing continues to drive the club’s ongoing growth and success.

The club extended a heartfelt thank you to both returning sponsors and new partners joining the Nant Conwy family, acknowledging that their continued generosity is the driving force behind the club’s achievements on and off the pitch.

Supporters and sponsors were treated to a fantastic day of rugby, featuring two outstanding home wins:

  • Teirw Nant Conwy: Maintained their flawless start to the season, keeping their 100% winning record intact with a hard-fought victory over Bangor.
  • Nant Conwy 3rd XV: Took a strong first step in defending their North Wales Division 3 cup title, securing an impressive 32–10 victory over Bala Athletic.

Nant Conwy Rugby Club would once again like to express its deepest gratitude to all sponsors for their incredible ongoing commitment and support.

Clwb Ieuenctid/Youth Club

Bydd Clwb CIC (Bl7-9) yn cael ei gynal yn fisol yng Nghlwb Rygbi Nant Conwy ar gyfer pobl ifanc o bob rhan o’r ardal. Bydd y clwb yn cael ei redeg gyda chefnogaeth Tîm Dal Dy Dir a’r fenter i gefnogi iechyd meddwl, gan ddarparu cyfle gwych i bobl ifanc gwrdd â ffrindiau newydd a mwynhau amser gyda’i gilydd.

Gweler y posteri am ddyddiadau a lleoliadau’r clybiau.

Os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch ag Owain ar 07789 887689.

Club CIC (Years 7-9) will be held once a month at Nant Conwy Rugby Club for young people from all areas. The club will be run with the support of the Dal Dy Dir Team and initiative to support mental health, providing a great opportunity for young people to meet new friends and have fun together.

Please see the posters for dates and venues for the clubs.

If you would like any further information, please contact Owain on 07789 887689.

Dal Dy Dir Nant Conwy Hold Your Ground

Gyda nifer o chwaraewyr a chefnogwyr Clwb Rygbi Nant Conwy yn cychwyn eu cyfnod yn y Brifysgol dros yr wythnosau nesaf dyma rannu adnoddau iechyd meddwl i fyfyrwyr yn Gymraeg.

With many of our players and supporters starting their journey at various Universities during the next few weeks here are mental health resources for students in Welsh.

Crysau Newydd y Tîm Cyntaf/The New First Team Shirts

Diolch i Ifan am modlo!

💥Hoffwn ddiolch eto i’n noddwyr ar gyfer y crysau:

• Lanyon Bowdler

• Cummings Borehole

• Garej Tŷ Gwyn Arwyn Owen

• Cwrwnant.cymru

• Hefin Jones Vehicle Body Repairs

• Castell Howell

Diolch i Teejac Sports LTD am gyflenwi’r crysau 🤩

Thanks to Ifan for being the model!

💥Thanks again to our sponsors for the shirts:

• Lanyon Bowdler

• Cummings Borehole

• Garej Tŷ Gwyn

• Cwrw Nant

• Hefin Jones

• Castell Howell

Thanks to Teejac for supplying the shirts 🤩

Gêm Goffa Aaron Newman Memorial Match

🌟Teirw Nant yn erbyn Bae Colwyn🌟

📍 Pant Carw

📅 22.08.2025

🕐 2:00 cc/ ko

🌟Aaron Newman’s Memorial Match🌟

🌟Teirw Nant against Colwyn Bay🌟

Mi fydd raffl ar gael, gyda’r arian yn mynd tuag at Mind a 2Wish Cymru, yn ôl dymuniad y teulu.

There will be a raffle on the day, with the donations going towards Mind and 2Wish Cymru.

DIWRNOD GWOBRWYO YR ADRAN HŶN A’R IEUENCTID/SENIORS AND YOUTHS PRESENTATION DAY

Diolch i bawb a ddaeth i ddathlu diwedd tymor rygbi. Pawb wedi cael p’nawn llawn hwyl 🌟

Diolch i bawb am eu help i gadw llygaid ar y BBQ, i’r staff tu ôl i’r bar! A diolch i bawb arall wnaeth helpu ar y diwrnod!

Llongyfarchiadau i’r canlynol am eu gwobrwyon eleni…..

Thank you to everyone who came to celebrate the end of the rugby season. Everyone had a fun afternoon 🌟

Thanks to everyone for helping to keep an eye on the BBQ, to the staff behind the bar! And thanks to everyone else who helped on the day!

Congratulations to the following for their awards this year…..

TÎM CYNTAF / FIRST TEAM

Chwaraewr y flwyddyn / Player of the Year – Gwion Jones

Chwaraewr y chwaraewyr / Player’s players – Brychan Dafydd

Chwaraewr y cefnogwyr / Supporters player – Sam Hughes

Chwaraewr yr hyfforddwyr / Coaches player – Y tîm i gyd / the full squad

Chwaraewr mwyaf addawol / Most Improved – Rowan Braunton

TEIRW

Chwaraewr y flwyddyn / Player of the Year – Josh Williams

Chwaraewr y chwaraewyr / Player’s players – Deio Williams

Chwaraewr yr hyfforddwyr / Coaches player – Elis Anderson

Chwaraewr mwyaf addawol / Most Improved – Bedo Jones

YOUTHS / IEUENCTID

Chwaraewr y flwyddyn / Player of the Year – Macsen Owain-Koffi

Chwaraewr y chwaraewyr / Player’s players – Isaac Davies

Chwaraewr yr hyfforddwyr / Coaches player – Iwan Roberts

Chwaraewr mwyaf addawol / Most Improved – Nowi Davies

Ceirw Nant

Pôb lwc i griw D12 Ceirw Nant heddiw draw yn Stadiwm Eirias yn ffeinal y gwpan yn erbyn @gwylliaid_meirionnydd !

Dewch draw i gefnogi!🦌⚡️

Cic gyntaf – 3yh

📍Parc Eirias

Good luck to Ceirw Nant U12 today at Eirias in the Cup final against @gwylliaid_meirionnydd

Come along and support!🦌⚡️

Kick off – 3pm

📍Eirias Stadium

Tony Greenwood

Gyda thristwch mawr rydym yn cofio ac yn talu teyrnged i Tony Greenwood.

Tony oedd sylfaen y clwb fel yr ydym yn ei adnabod heddiw – ein hyfforddwr cyntaf erioed, ac ysbryd gwirfoddol a roddodd ei amser, ei egni a’i galon i Nant Conwy. Yn yr 1980au cynnar, pan nad oedd strwythur cynghreiriau fel heddiw, ef oedd y grym a gadwodd y timau i fynd.

Nid hyfforddwr yn unig oedd Tony – roedd yn chwaraewr, yn gefnogwr ffyddlon, ac yn ffrind i bawb. Ar ochr y cae, roedd ei bresenoldeb yn arbennig; bob amser yn barod am sgwrs, gair caredig neu dipyn o hiwmor. Dyna’r pethau bach sy’n gadael yr argraff fwyaf.

Bydd bwlch enfawr ar ei ôl, ond bydd ei etifeddiaeth yn parhau ym mhob rhan o’r clwb.

Rydym ni gyd yn anfon ein cydymdeimlad dwysaf at Eireen a’r teulu ar yr adeg anodd hon.

It is with great sadness that we remember and pay tribute to Tony Greenwood.

Tony was a cornerstone of the club as we know it today – our very first coach, and a true volunteer who gave his time, energy, and heart to Nant Conwy. In the early 1980s, when there was no formal league structure, he was the driving force that kept the teams going.

Tony was not just a coach – he was a player, a loyal supporter, and a friend to everyone. On the touchline, his presence was something special; always ready for a chat, a kind word, or a bit of humour. It’s those small moments that leave the biggest mark.

There will be a huge void left behind, but his legacy will live on in every part of the club.

We all send our deepest condolences to Eireen and the family at this difficult time.

Cyfle Nawdd – Clwb Rygbi Nant Conwy-Sponsorship Opportunity

Rydym yn chwilio am noddwyr ar gyfer crysau’r Tîm 1af, Teirw Nant a’r Tîm Ieuenctid ar gyfer tymhorau 2026/27 & 2027/28.

Cyfle gwych i hyrwyddo eich busnes ar draws Gogledd a Chanolbarth Cymru drwy’r wasg, cyfryngau cymdeithasol a’r posibilrwydd o sylw cenedlaethol.

Opsiynau nawdd (2 flynedd):

• Blaen y Crys (Prif Noddwr): £2,250 + TAW

• Cefn (Ysgwyddau/Gwaelod): £850 + TAW

• Llewys: £450 + TAW

📬 Anfonwch gynigion (wedi’u marcio “SEALED BID”) erbyn 31ain Mawrth i:

Julie Ellis-Jones, Clwb Rygbi Nant Conwy, Pant Carw, Trefriw, Conwy LL26 0PW

📩 Am ragor o wybodaeth: julieabryn@hotmail.co.uk

Cefnogwch eich clwb lleol 💚💛

We’re seeking sponsors for our 1st Team, Teirw Nant & Youth Team shirts for the 2026/27 & 2027/28 seasons.

Great chance to promote your business across North & Mid Wales through press, social media & potential national exposure.

2-year sponsorship options:

• Front (Main Sponsor): £2,250 + VAT

• Back (Shoulders/Bottom): £850 + VAT

• Sleeves: £450 + VAT

📬 Submit bids (marked “SEALED BID”) by 31st March to:

Julie Ellis-Jones, Nant Conwy RFC, Pant Carw, Trefriw, Conwy LL26 0PW

📩 For more info: julieabryn@hotmail.co.uk

Support your local club 💚💛