
Mae Clwb Rygbi Nant Conwy yn y broses o sefydlu trefn i gynnal iechyd meddwl ein chwaraewyr, ein cefnogwyr a’n cymuned ehangach.
Gyda Iechyd Meddwl yn effeithio arnom ni gyd mewn rhyw ffordd neu’i gilydd, mae angen cofio nad ydym ar ein pen ein hunain.
Nod creu Grwp Dal Dy Dir – Iechyd Meddwl – Nant Conwy -Mental Health – Hold Your Ground, yw dod a’r sgwrs at ein aelodau gan wneud ein clwb yn le diogel i drafod a gofyn am gymorth a chefnogaeth.
Rydym eisiau buddsoddi mewn hyfforddiant i aelodau’r grwp fel bod gennym y gallu i gynnal ein gilydd.
Prif amcan y fenter grwp Dal Dy Dir:
Normaleiddio ein heriau iechyd meddwl
Byddwn yn gwneud hyn drwy:
- Hyrwyddo a chyfeirio gwybodaeth a gwasanaethau iechyd meddwl
- Creu lle diogel i diarad am iechyd meddwl
- Trefnu a chynllunio digwyddiadau i gefnogi iechyd meddwl
Nant Conwy Rugby Club is in the process of establishing a system to maintain the mental health of our players, our fans and our wider community.
With mental health affecting us all in one way or another, we need to remember that we are not alone.
The aim of creating Grwp Dal Dy Dir – Iechyd Meddwl – Nant Conwy – Mental Health – Hold Your Ground, is to bring the conversation to our members, making our club a safe place to discuss and ask for help and support.
We want to invest in training for group members so that we have the tools to support each other.
The main objective of Hold Your Ground Group initiative:
Normalising our mental health challenges.
We do this by:
- Promoting and signposting mental health information and services
- Creating a safe space to talk about mental health
- Organising and planning events to support mental health
Mis Iechyd Meddwl/Mental Health Month
Mae mis Mai yn Fis Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl. ![]()
Diolch yn fawr i Alun am greu’r fideo i hyrwyddo Dal Dy Dir ![]()
![]()
May is Mental Health Awareness Month. ![]()
A huge thank you to Alun for creating the video to promote Dal Dy Dir ![]()
![]()
Her Nic Connor Challenge
Plîs cymerwch funud i ddarllen a chefnogi her Nic Conner ![]()
Bydd yr arian a godir yn mynd tuag at Grŵp Dal Dy Dir ![]()
![]()
Os gallwch, cyfrannwch a rhannwch i helpu lledaenu’r neges!
Please take a moment to read about and support Nic Conner’s challenge ![]()
All funds raised will go to the Hold Your Ground Group ![]()
![]()
If you can, please donate and share to help spread the word!
———————————————
(English below)
Ar ôl 20 mlynedd allan o gaiac, penderfynais fynd yn ôl ar y dŵr gyda’r nod o gwblhau Ras Devizes i Westminster yn 2026.
Byddaf yn rasio mewn cwch K2 gyda fy chwaer Sarah, sydd hithau wedi bod bron i 30 mlynedd allan o’r gamp. Erbyn i ni gyrraedd y llinell gychwyn, dim ond chwe gwaith fyddwn wedi padlo gyda’n gilydd — mewn cwch sydd yn 51 mlwydd oed — tra bod llawer o dimau’n hyfforddi sawl gwaith yr wythnos am flwyddyn neu fwy.
Mae’r ras ei hun yn her eithriadol o galed: 125 milltir (200 km) o Devizes i Lundain gyda 77 portage, sy’n golygu dod allan o’r dŵr a chario’r cwch o gwmpas y cloeon. Ein nod ni yw cwblhau’r ras — a gobeithio peidio â phadlo am lawer mwy na 24 awr.
Rydym yn cymryd yr her yma i gefnogi Dal Dy Dir yng Nghlwb Rygbi Nant Conwy — gan godi arian ac ymwybyddiaeth.
Mae Nant Conwy wrth galon cymuned wledig, lle gall pobl weithiau deimlo’n unig, ac nid yw sgwrsio am iechyd meddwl — yn enwedig ymhlith dynion a bechgyn — bob amser yn hawdd.
Mae Dal Dy Dir yn gweithio i newid hynny — dod â’r sgwrs i mewn i’r clwb a’i wneud yn lle diogel i siarad ac i ofyn am gymorth a chefnogaeth, tra hefyd yn buddsoddi mewn hyfforddiant, adnoddau a digwyddiadau i helpu’r gymuned i gefnogi ei gilydd.
Os gallwch roi rhodd neu rannu’r dudalen byddai hynny’n golygu llawer — ac yr un mor bwysig, helpu i ledaenu’r neges.
—
After 20 years out of a kayak, last August I decided to get back on the water with one goal: completing the Devizes to Westminster International Canoe Race (DW) in 2026.
I’ll be racing in a K2 with my sister, Sarah, who has been away from the sport for almost 30 years. By the time we reach the start line, we’ll only have paddled together six times (in a boat that’s 51 years old), while many crews train together several times a week for over a year.
The race itself is brutal: 125 miles (200 km) from Devizes to London with 77 portages (getting out and carrying the boat around locks). Our aim is simply to finish, ideally without paddling for more than 24 hours.
We’re taking on the challenge to support mental health with Dal Dy Dir (Hold Your Ground) at Clwb Rygbi Nant Conwy, raising both funds and awareness.
Nant Conwy sits at the heart of a rural community in North Wales, where people can sometimes feel isolated and where conversations around mental health, particularly among men and boys, don’t always happen easily.
Dal Dy Dir is working to change that. It brings the conversation into the club, making it a safe place to talk and ask for help and support, while also investing in training, resources and events so that players, members and the wider community can better support each other.
If you’re able to donate or share the page, it would mean a huge amount — and just as importantly, help us spread the Dal Dy Dir message.
Noson hefo/An Evening with Rhys Patchell
NOSON YNG NGHWMNI RHYS PATCHELL ![]()
Mi fydd Grŵp Dal Dy Dir yn cynnal noson efo Rhys Patchell ar ôl yr Gwersyll Haf.
Mynediad am ddim i unigolion Dros 16 yn unig.
Bydd raffl ar gael ar y noson hefyd!
NIGHT IN THE COMPANY OF RHYS PATCHELL ![]()
Hold Your Ground Group will host an evening with Rhys Patchell after the Summer Camp.
Free entry for Over 16s only.
There will also be a raffle on the night!


Bristol to Barcelona
Ar ddiwedd mis Mai 2025, bydd Gari Fôn, Gruffudd ap Gwyndaf, Gruff Fôn, a Guto Huw yn beicio dros 1000km o Bryste i Barcelona. Byddant yn dringo bron i 45,000 troedfedd, sydd yn gymharol a mynd fyny’r Wyddfa deuddeg gwaith.
Byddant yn casglu arian tuag ar Grŵp Dal Dy Dir. Dangoswch eich cefnogaeth iddyn nhw drwy gyfrannu i’r linc isod a rhannwch y stori.

At the end of May 2025, Gari, Gruffudd, Gruf, and Guto will be cycling from Bristol to Barcelona. They will be climbing nearly 45,000 feet on theie bikes, which is equivalent to climbing Yr Wyddfa twelve times.
They will raising money to the Hold Your Ground Group. Please show your support by donarjng and also sharing the link below.
https://www.crowdfunder.co.uk/p/dal-dy-dir—nant-conwy—hold-your-ground?
![]()
Grŵp Dal Dy Dir ![]()
![]()
Ar ddiwedd 2024 daeth Simon o’r Speakeasy Club i weld aelodau o Grŵp Dal Dy Dir.
Yn y cyfarfod clywsom am ei fenter o rhoi meinciau pinc ar draws clybiau, er mwyn annog i pobl siarad am eu iechyd meddwl!
Ewch draw i’w dudalen Facebook ac Instagram i weld mwy am ei fenter.
Yn hytrach na pheintio mainc, mae Clwb Rygbi Nant wedi rhoi cot o baent pinc ar y ‘reel’ sydd o flaen y Clwb ![]()
Diolch yn fawr i hogiau o Dîm Dan 16 am ei beintio ac hefyd i Dewi Watson am drefnu a chael y paent ![]()
Fydd hi ddim yn anodd i fethu y ‘reel’ o hyn ymlaen!
![]()
Hold Your Ground Group ![]()
![]()
At the end of 2024 Simon came from the Speakeasy Club to see members of the Hold Your Ground Group.
At the meeting we heard about his initiative of putting pink benches across clubs, to encourage people to talk about their mental health!
Head over to his Facebook page and Instagram to see more about his venture.
Rather than painting a bench, Nant Rugby Club has put a coat of pink paint on the ‘reel’ in front of the Club ![]()
Many thanks to the boys from the Under 16s for painting it and also to Dewi Watson for organizing and getting the paint ![]()
It won’t be difficult to miss the ‘reel’ from now on!











![]()
Dal Dy Dir ![]()
![]()
Llongyfarchiadau mawr i Nedw, Elis, Dylan, Joshua, a Llywarch sydd wedi cyrraedd copa Yr Wyddfa.
Mae’r tudalen Go Fund Me dal ar agor a siwr fysa nhw yn gwerthfawrogi pob ceiniog.
Gweler linc ei Go Fund Me Page isod.
![]()
Hold Your Ground![]()
![]()
Congratulations to Nedw, Elis, Dylan, Joshua, and Llywarch who have reached the summit of Yr Wyddfa.
Their Go Fund Me page are still open and they would be grateful for any donations.
See the link to their Go Fund Me Page below.

