Tony Greenwood

Gyda thristwch mawr rydym yn cofio ac yn talu teyrnged i Tony Greenwood.

Tony oedd sylfaen y clwb fel yr ydym yn ei adnabod heddiw – ein hyfforddwr cyntaf erioed, ac ysbryd gwirfoddol a roddodd ei amser, ei egni a’i galon i Nant Conwy. Yn yr 1980au cynnar, pan nad oedd strwythur cynghreiriau fel heddiw, ef oedd y grym a gadwodd y timau i fynd.

Nid hyfforddwr yn unig oedd Tony – roedd yn chwaraewr, yn gefnogwr ffyddlon, ac yn ffrind i bawb. Ar ochr y cae, roedd ei bresenoldeb yn arbennig; bob amser yn barod am sgwrs, gair caredig neu dipyn o hiwmor. Dyna’r pethau bach sy’n gadael yr argraff fwyaf.

Bydd bwlch enfawr ar ei ôl, ond bydd ei etifeddiaeth yn parhau ym mhob rhan o’r clwb.

Rydym ni gyd yn anfon ein cydymdeimlad dwysaf at Eireen a’r teulu ar yr adeg anodd hon.

It is with great sadness that we remember and pay tribute to Tony Greenwood.

Tony was a cornerstone of the club as we know it today – our very first coach, and a true volunteer who gave his time, energy, and heart to Nant Conwy. In the early 1980s, when there was no formal league structure, he was the driving force that kept the teams going.

Tony was not just a coach – he was a player, a loyal supporter, and a friend to everyone. On the touchline, his presence was something special; always ready for a chat, a kind word, or a bit of humour. It’s those small moments that leave the biggest mark.

There will be a huge void left behind, but his legacy will live on in every part of the club.

We all send our deepest condolences to Eireen and the family at this difficult time.