vs

Recap

Nant Conwy 38 – 0 Y Bala

Ddydd Sadwrn, gwelwyd Nant a’r Bala yn cwrdd am y pedwerydd tro y tymor hwn. Hon oedd y gêm gyntaf o’r pedair i’w chwarae yn Nant ac roedd y tîm yn benderfynol o gael 4 allan o 4 o fuddugoliaethau, tra bod Bala yn anelu at dorri’r dilyniant colli.

Nant a wnaeth ddechrau orau gyda dau gais cynnar trwy’r blaenasgellwr, Ifan Williams. Yna setlodd y gêm i mewn i gystadleuaeth fwy cyfartal nes i ddau gais gan Rhydian Jones naill ochr yr hanner amser roi Nant fwy neu lai allan o gyrraedd. Ar ôl ildio ceisiau yn y gêm yn erbyn Caernarfon yr wythnos diwethaf, gwelwyd Nant yn amddiffyn fwy cadarn y tro hwn.

Gwelodd y gêm Nant yn ymosod o’r dechrau a bu bron i symudiad oddi ar dadlwytho  cyflwym arwain at gais ond cafodd y bêl ei dal i fyny. Nid oedd yn hir, fodd bynnag, cyn i Williams gael ei gais cyntaf, ag un Nant. Casglwyd y gic o’r linell gôl gan Sion Pringle i setio Williams i fynd drosodd yn y gornel dde.

Yn fuan wedyn, o gic gosb a ddyfarnwyd o flaen y pyst, dewisodd Nant sgrym. Er i’r symudiad dorri i lawr i ddechrau, cafodd y bêl ei hailgasglu a rhediad pwerus gan Hughes yn setio Williams i dorri drwodd ar gyfer ei ail gais ef ag ail gais Nant. Rhoddodd y trosiad gan Davies y sgôr i fyny i 12 – 0.

Yna tawelodd y gêm yn rhywbeth o ymosod cyfartal gan y naill ochr a’r llall, gyda’r naill dîm na’r llall yn gallu torri trwodd. Ond ar strôc hanner amser yn Dilyn cyd-chwarae rhwng y ddwy asgell, gwelwyd Rhydian Jones yn torri’n glir i gael y trydydd cais.

Dechreuodd yr ail hanner gyda chais cynnar arall gan Nant. Cyrhaeddodd toriad o gic gosb wedi’i thapio gan Pringle ar y chwith. Rhoddodd ei bas mewnol rediad arall i Jones am y llinell a chais o dan y pyst un a droswyd gan Davies.

Daeth y pumed cais hanner ffordd trwy’r hanner. Gwthiodd Nant ymlaen ar sgrym ar linell 22 y Bala; torrodd Roberts i’r chwith a bwydo Pringle a ffugiodd heibio’r linell amddiffynol a mynd drosodd. Gwnaeth trosiad Davies y sgôr yn 31 – 0.

Roedd Bala yn ymdrechu i gael rhyw fath o sgôr cyn y diwedd, ond yn y munudau olaf, gwelwyd Nant yn ymosod yn gyson. Ar ôl llawer o ymdrech gan Nant ac amddiffyn gwych gan y Bala, Sam Hughes gafodd y gair olaf pan orfododd ei ffordd drosodd o fan agos at y llinell. Rhoddodd pedwerydd trosiad gan Davies sgôr derfynol o 38 – 0.

Cadwodd y fuddugoliaeth bwynt bonws hon Nant ar y blaen i’w gwrthwynebwyr nesaf, Pwllheli (i ffwrdd), mewn gȇm gynghrair. Dylai fod yn gêm wych.

Saturday saw Nant and Bala meet for a fourth time this season. This was the first game to be played at Nant and the team were determined to make it 4 out 4 of wins, whilst Bala aimed to break the losing sequence.

It was Nant who made the better start with two early tries through flanker Ifan Williams. The game then settled into a more even contest until two tries by Rhydian Jones either side of half-time put Nant more or less out of reach. Having conceded tries in last weeks match against Caernarfon, Nant put up a more robust defence this time.

The game saw Nant on the attack from the start and an off-loading move almost resulted in a try but the ball was held up. It wasn’t long, though, before Williams got his, and Nant’s, first try. The goal-line drop-out was gathered by Sion Pringle to set up Williams to go over in the right corner.

Soon after, from a penalty awarded in front of the posts, Nant opted for a scrum. Though the move initially broke down, the ball was regathered and a powerful run by Hughes set up Williams to break through for his, and Nant’s, second try. The conversion by Davies put the score up to 12 – 0.

The game then became something of a stalemate, neither team able to make a breakthrough. But on the stroke of half-time interplay between the two wings saw Rhydian Jones break clear to get the third try.

The second half started with another early try from Nant. A break from a tapped penalty reached Pringle on the left. His inside pass gave Jones a run for the line and a try under the posts, which Davies converted.

Try five came midway through the half.  Nant pushed forward at a scrum on the Bala 22, Roberts broke left and fed Pringle who dummied the cover and went over. Davies’ conversion made it 31 – 0.

Bala strove to get some kind of score before the end, but the last few minutes saw Nant on the attack. After much effort by Nant and some great defence by Bala, Sam Hughes had the last say when he forced his way over from close to the line. A fourth conversion by Davies gave a final score-line of 38 – 0.

This bonus point win kept Nant ahead of their next rivals, Pwllheli, in the league. It should be a great game.

May be an image of text that says "CWRW NANT"    May be a graphic of 1 person and text that says "ΜΑΝ OF THE MATCH Tîm Cyntaf AronJones Aron Jones"

Details

Date Time League Season
29 March 2025 14:30 Adran 1 Gogledd/League 1 North 2024/25

Results

TeamTriesConversionsPoints
Nant Conwy6438
Y Bala000

Nant Conwy

# Player Position T C P DG
10Caron Rhys DaviesFly Half0400
17Anthony Kirkham 1Prop Loose Head0000
18Rhys Ap Gwyndaf 4Hooker0000
1Emlyn Jones 17Prop Tight Head0000
3Siencyn MetcalfeProp Loose Head0000
6Brychan DafyddFlanker0000
7Ifan Emyr WilliamsFlanker2000
19Carwyn Ellis 2No 80000
2Tomos Williams 19Hooker0000
8Sam HughesNo 81000
20Deian Roberts 9Scrum Half0000
14Carwyn DaviesWing0000
9Cai Jones 20Scrum Half0000
12Morgan DafyddCentre0000
5Aron Jones2nd Row0000
11Rhydian JonesWing2000
13Gwion JonesCentre0000
16Elgan DaviesProp0000
4Aron Thomas 182nd Row0000
15Sion PringleFull Back1000
 Total 6400

Y Bala

Position T C P DG
 0000
T
6
0
C
4
0
P
0
0
DG
0
0