League: Cwpan Gogledd Cymru Adran 1
Nant Conwy v Bethesda
Nant Conwy 67 – 10 Bethesda
Bu i Nant Conwy gadw’u gafael ar Gwpan Adran 1 Gogledd Cymru mewn steil gyda’r fuddugoliaeth gref wrth sgorio 10 cais. Ar ôl curo’r Bala, Rhuthun a Phwllheli ar y ffordd i’r rownd derfynol, roedd Nant yn erbyn tîm Bethesda a oedd wedi’u gwthio’n galed yn y gêm gynghrair ym mis Chwefror.
Cafodd Nant gyfanswm o dri chais wedi’u trosi a chic gosb yn yr hanner cyntaf, gan sefydlu arweiniad cadarn, ond heb fod yn anorchfygol o 24 – 0. Yn yr ail hanner, cafodd naw cais ychwanegol eu sgorio, saith i Nant a dau i Bethesda, a sgoriwyd ar adegau rheolaidd.
Roedd y deg munud cyntaf yn y gêm yn eithaf caled gyda’r ddwy ochr yn mesur ei gilydd. Roedd Nant yn gwneud y defnydd gorau, yn aml yn osgoi’r taclo.
Daeth y cais agoriadol ar ôl 12 munud. O un o’r llinellau y tu mewn i hanner Bethesda, symudwyd y bêl allan i Sam Hughes. Cafodd y gorau o nifer o daclau cyn cael ei dynnu i lawr yn ddwfn yn 22 Bethesda. Cododd Cai Jones y bêl a’i chael allan i Siencyn Metcalfe a wthiodd ei ffordd drwodd i sgorio.
Deg munud yn ddiweddarach, aeth Nant yn ymhellach ymlaen. Symudwyd y bêl ryc yn y gornel chwith yn gyflym drwy’r cefnwyr i Hughes. Wrth gymryd y bêl yn gyflym, fe wthiodd drwy nifer o daclau am y cais.
Cain Jones, a drosodd y ceisiau yn ychwanegu cic gosb. Yn syth ar ôl hynny, cafodd Hughes ei ail gais, un tebyg iawn i’r cyntaf. Ryc, symud y bêl yn gyflym, Hughes yn dorri trwy’r amddiffynwyr, cyn tirio’r bȇl. Roedd y trosiad gan Jones yn ei gwneud hi’n 24 – 0 ar hanner amser.
Yn fuan ar ôl ailgychwyn, roedd Tomos Williams yn gwneud argraff wych o ‘binball’. Wrth dderbyn pas, roedd yn cael ei amgylchynnu’n syth gan bedwar gwrthwynebwr. Parhaodd i neidio rhyngddynt i ddod allan o’r ochr arall gan redeg heb ei wrthwynebu i’r llinell i sgorio.
Yn fuan ar ôl hynny, glanhaodd a chasglodd Gwion Jones bêl rydd cyn gwneud tir a rhoi pas i Rhydian Jones a wnaeth droi allan o’r tacl i sgorio. 36 – 0.
Cafodd Bethesda gyfnod da wedyn ac roeddent yn dal Nant yn aml ar eu llinell gôl. Yn dilyn ryc ar ôl ryc, llwyddodd rhif 6 Bethesda dirio’r bêl i wneud y sgôr yn 36 – 5.
Ymhen ychydig funudau, adferwyd y ffin arwain. Bu rhediad arall gan Gwion Jones gael ei barhau gan Fôn a roddodd y pas sgorio i Ifan Williams.
Yn dilyn hyn, bu cyfnod o 15 munud o chwarae cyffredin lle nad oedd yr un o’r ddwy ochr yn gallu ychwanegu at eu sgôr. Torwyd y cyfnod hwn pan ddaliwyd Carwyn Davies yn fyr o’r llinell. O’r ryc, estynnodd Metcalfe i’w lawn hyd i gael ei ail gais.
Ychydig funudau yn ddiweddarach, roedd Hughes yn ôl ar y sgrin sgôr gyda’i drydydd cais. Carwyn Ellis a gymerodd pas ar yr asgell dde. Daeth ei bas pel fasged o hyd i Hughes ar y tu mewn ac aeth y blaen asgellwr heibio i ddau daclwr i fynd dros gy linell sgorio am gais a droswyd.
Chwarae teg iddynt, gwrthododd Bethesda roi’r gêm i fyny. O’r ail ddechrau, rhoddwyd Nant dan bwysau ar eu llinell gais. Arweiniodd nifer o ryciau at yr eilydd o ganolwr fynd trosodd i ddyblu’u sgôr gyda deg munud i fynd.
Yna, daeth y cefnwyr i mewn i’r weithred pan dderbyniodd Elis Fôn y bêl wyth metr o’r linell gan ymddangos gyda unlle i fynd. Fe ddaeth i ben atrwy daflu cwpl o ffug basau a chreu’r lle dros iddo fynd trosodd i sgorio.
Gyda symudiad olaf y gêm, gwnaeth Caron Davies doriad ar y llinell hanner ffordd. Creodd hyn y lle i Siencyn Metcalfe rede gyn gyflymach na’r amddiffyn o’r llinell 10 metr a sgorio’I drydydd cais. Gan i Jones ychwanegu trosiad yn yr ail hanner a Davies dri, roedd y sgôr terfynol yn 67 – 10.
Cafodd Sam Hughes, yn haeddiannol, ei benodi’n chwaraewr y gêm ond mae’n siŵr bod eraill o chwaraewyr Nant wedi rhoi pwysoau called arno am yr anrhydedd.
Nant Conwy retained the North Wales Division 1 Cup in style with this emphatic 10 try win. Having beaten Bala, Rhuthun and Pwllheli on the way to the final, Nant were up against a Bethesda team that pushed them hard in the league fixture in February.
Three converted tries and a penalty in the first half saw Nant establish a strong, but not unassailable lead of 24 – 0. The second half saw a further nine tries, seven to Nant and two to Bethesda, scored at regular intervals.
The first ten minutes of the game was a cagey affair with both sides sizing each other up. Nant were making the better headway, often avoiding tackles.
The opening try came after 12 minutes. From a line-out just inside the Bethesda half, the ball was moved out to Sam Hughes. He shrugged off several tackles before being dragged down deep into Bethesda’s 22. Cai Jones popped the ball up to Siencyn Metcalfe who burst through to touch down.
Within ten minutes, Nant were further ahead. Ruck ball in the left corner was moved quickly through the backs to Hughes. Taking the ball at speed, he burst through several tackles for the try.
Cain Jones, who had converted the tries then added a penalty. Immediately after, Hughes got his second try, very similar to his first. A ruck, the ball moved quickly, Hughes bursting through tacklers, touch down. The conversion by Jones made it 24 – 0 at half-time.
Shortly after the restart, Tomos Williams did a wonderful impression of a pinball. Taking a pass he was immediately surrounded by four opponent’s. He proceeded to bounce between them to emerge from the other side with an unopposed run to the line to score.
Soon after, Gwion Jones cleaned up a loose ball before making ground and giving a pass to Rhydian Jones who twisted out of the tackle to score. 36 – 0.
Bethesda then had a good spell and were keeping Nant pinned back on their goal -line. Following ruck after ruck the Bethesda number 6 succeeded in grounding the ball to make it 36 – 5.
Within a few minutes the margin of the lead was restored. Another jinking run by Gwion Jones was carried on by Fôn who gave the scoring pass to Ifan Williams.
There followed a 15 minute spell of even play whereby neither side were able to add to their score. This spell was broken when Carwyn Davies was held up just short of the line. From the ruck Metcalfe stretched full length to grab his second try.
A couple of minutes later, Hughes was back on the score-sheet with his third try. Carwyn Ellis took a pass on the right wing. His basket ball pass found Hughes on the inside and the flanker avoided two tacklers to go over for a converted try.
To their credit, Bethesda refused to give up the game. From the restart they put Nant under pressure on their try line. Several rucks resulted in the replacement centre going over to double their score with ten minutes to go.
The backs then got in on the action when Elis Fôn received the ball eight metres out with seemingly nowhere to go. He threw a couple of dummy passes and this created the space for him to go over.
With the last move of the game, Caron Davies made a break on the halfway line. This created the space for Siencyn Metcalfe to outpace the defence from the 10 metre line and score his hat-trick try. With Jones having added a second half conversion and Davies three, the final score was 67 – 10.
Sam Hughes was deservedly awarded the player of the match but must have been pushed hard by other Nant players.

Player of the match
Sam Hughes
vs
Bethesda RFC
Nant Conwy
vs
Nant Conwy