Season: 2025/26

Bae Colwyn v Nant Conwy

Diolch i/Thanks to Ifor Glyn

Bae Colwyn Bay 0 – 78 Nant Conwy (31.01.26)
Sgorwyr NANT CONWY Scorers:
Ceisiau / Tries: Sion Pringle (2), Deian Roberts (2), Ifan Williams, Caron Davies, Tomos Williams, Cai Jones, Ellis Fôn, Carwyn Ellis, Sam Hughes & Cais Cosb / Penalty Try
Trosoiadau / Conversions: Caron Davies (8) & 1 trosiad cais cosb (& 1 Penalty try conversion)

Dechreuodd Nant y gȇm hon ar dȃn, Yn fuan wedi’r gic gyntaf, cafwyd sgrym ar ‘22’ y tîm cartref. Enillwyd y bȇl a phasiwyd hi allan ar hyd y linell cefnwyr gan adael yr asgellwr Sion osgoi tri thacl i dirio cyn i Caron drosi (yr un cyntaf o with trosiad llwyddiannus iddo). Hyn i gyd wedi tri munud yn unig.
Daeth yr ail gais wedi 10 munud yn dilyn sgrym i Fae Colwyn 5 metr o’u llinell. Bu iddynt ennill y bȇl ond, yn anffodus iddynt hwy goillyngwyd y bȇl wrth geisio rhedeg allan ag ymatebodd Ifan yn gynt na neb wrth godi’r bȇl rhydd a phlymio trosodd ger y pyst. Caron yn trosi eto.
Wedi 19 munud enillodd Nant y bȇl yng nghanol y cae a phasiwyd hi allan i’r chwith. I orffen y symudiad a sgorio cais gwelwyd Deian, yr asgellwr de yn troi’i fyny o unlle i gymryd y pas a thorri drwy’r tacl olaf i gael cais yn y gornel.
Gwelwyd Bae Colwyn yn taflu i fewn o’r linell ochr ar eu ‘22’ eu hunain wedi 24 munud. Cwblhawyd y symundiad hwnnw’n llwyddiannus ganddynt ond, unwaith eto, trawyd y bȇl i’r llawr gydag ymosodwyr Nant yn bachu ar y cyfle i basio i’r chwith eto gyda Sion yn tirio fel asgellwr chwith da.
Cyrhaeddodd y sgôr nesaf wedi 32 munud pan drowyd y bȇl drosodd ar ‘22’ Nant a bu i’r cefnwyr symud y bȇl yn gywrain o’r fan honno gan orffen gyda’r Capten, Caron yn tirio o dan y pyst ac yn trosi’i gais ei hun.
Dri munud yn ddiweddarach, wrth i Fae Colwyn gicio’r bȇl i lawr y maes wrth amddiffyn, casglwyd y bȇl gan flaenwyr Nant a bu iddynt gyd-chwarae nes cyrraedd y linell gartref yn y diwedd gyda’r ail reng Tomos yn plymio trosodd yn fuddugoliaethus. Trosiad llwyddiannus arall gan Caron.
Daeth cais olaf yr hanner cyntaf wrthj i’r cefnwyr ymosod i’r chwith cyn pasio’n ôl tua’r dde. Yng ngahnol y cae, bu i Ellis Fôn (rhif 10) gicio’n uchel tua’r asgell dde lle y bu i Deian gasglu’r bȇl o’r awyr a rhuthro trosodd am gais gyda Caron yn trosi.
Sgôr o 0 – 45 qr yr hanner felly!
Gwelwyd y tîm acrtref yn llawer mwy cystadleuol yn yr ail hanner er nad ymddangosai felly wedi 4 munud o chwarae. Cosbwyd y Bae ddwywaith wrth ymyl eu llinell a phan y bu iddynt droseddu am y drydedd waith, bu i’r dyfarnwr benderfynu rhoi cais cosb i Nant (cyfanswm o 7 bwynt, wrth gwrs).
Roedd 17 munud o’r ail hanner wedi’i chwarae pan godwyd y bȇl gan Nant ar eu ‘22’ eu hunian a gwelwyd symudiadau celfydd yn ôl ag ymlaen ymysg y cefnwyr gyda’r hannerwr, Cai yn gorffen y symundiad ar yr asgell dde gyda chais a droswyd gan Caron.
Gwelwyd sgoriwr arall newydd wedi 67 munud pan fu i Ellis Fôn ryng-gipio’r bȇl yn ddwfn yn ei hanner ei hun a rhedeg yn chwim i sgorio cais o dan y pyst gyda Caron yn trosi eto.
Wedi i Nant ddod a’u holl eilyddion ymlaen, braf oedd gweld yr hen ben, Carwyn yn cael cais arall i’w gasgliad enfawr wrth i bac Nant wthio trosodd o sgrym 5. Daeth trosiad arall gan Caron yma.
Cyrhaeddodd sgôr olaf y gȇm ddau funud o’r diwedd wrth i’r blaenwyr ymosod ar y linell yn ddi-baid gyda Sam y tro hwn yn plymio drwy dacl i sgorio cais.
Rhoddodd hyn sgôr derfynol o 0 – 78.
Bydd Nant yn chwarae nesaf ymhen pythefnos (14.02.26) pan groesewir Y Bala i Bant Carw.


This game of Nant started cleverly. Soon after the first kick, there was a scrum on the ’22’ of the home team. The ball was won and passed along the back line, leaving the winger Sion to evade three tackles to score before Caron converted (his first successful conversion). All of this happened in just three minutes.

The second try came 10 minutes later following a scrum on the Colwyn Bay 5 meter line. They managed to win the ball but, unfortunately for them, lost it while attempting to run it out, and Ifan reacted faster than anyone when picking up the loose ball and diving over by the posts. Caron converted again.
After 19 minutes, Nant won the ball in the middle of the field and passed it out to the left. To finish off the move and score a try, Deian, the right winger, was seen turning up from nowhere to take the pass and cut through the final tackle to score a try in the corner.
Colwyn Bay were throwing in from the sideline on their own ’22’ after 24 minutes. That move was successfully completed by them, but once again, the ball was knocked to the ground with Nant’s attackers seizing the opportunity to pass to the left again, with Sion scoring as a good left winger.
The next score arrived after 32 minutes when the ball was turned over on Nant’s 22 and the full-backs moved the ball skillfully from there, ending with the captain, Caron, grounding it under the posts and converting his own try.
Three minutes later, as Colwyn Bay kicked the ball downfield from defence, it was gathered by Nant’s forwards who played together until they finally reached the home line, with second-row player Tomos diving over in triumph. Another successful conversion by Caron.
The final try of the first half saw all the backs combine to attack to the left before passing back to the right. In the centre of the field, Ellis Fôn (number 10) kicked high towards the right wing where Deian collected the ball from the air and rushed over for a try with Caron converting.
A score of 0 – 45 at half time then!
The home team was seen to be much more competitive in the second half, although it did not seem so after 4 minutes of play. The Bay were penalised twice near their line, and when they offended for the third time, the referee decided to award Nant a penalty try (a total of 7 points, of course).

Seventeen minutes into the second half, the ball was picked up by Nant on their own ’22’, and there were skillful back-and-forth movements among the backs, with the scrum-half, Cai, finishing the move on the right wing with a try converted by Caron.
There was another new scorer after 67 minutes when Ellis Fôn intercepted the ball deep in his own half and ran quickly to score a try under the posts, with Caron converting again.
After Nant brought all their substitutes forward, it was nice to see the veteran, Carwyn, getting another try to add to his huge tally as Nant’s pack pushed over from a scrum 5. Another conversion by Caron came here.
The final score of the game finally came two minutes later as the forwards relentlessly attacked the line, with Sam this time diving through a tackle to score a try.
This brought the final score to 0 – 78.
Nant will next play in a fortnight (14.02.26) when Y Bala will visit Pant Carw.

 

vs
vs
vs
vs
vs
vs

Nant Conwy v Llandudno

Diolch i/Thanks to Ifor Glyn

NANT CONWY – 45 v LLANDUDNO – 7

Sgorwyr Nant Conwy scorers:

Ceisiau / Tries : Gwion Jones (3), Ellis Fôn, Deian Roberts, Cai Jones & Caron Davies

Trosiadau / Conversions : Caron Davies (5)

Pan yn blentyn, roeddwn yn chwarae gemau ‘Ymosod ag Amddiffyn’ gyda chriw bychan o fy ffrindiau pȇl-droed. Tybiaf fod y term hwnnw o ‘ymosod ag amddiffyn’ yn hynod addas am y gȇm hon.

Yn ystod y chwarter cyntaf, gwelwyd Nant yn ymosod yn gyson a’r ymwelwyr yn ceisio’u gorau i amddiffyn. Wedi 4 munud o chwarae, gwelwyd rhif 13 Nant, Gwion Jones, yn sgorio’i gais cyntaf allan o dri. Nant yn pasio’r bȇl o’r chwith i’r dde rhwng y cefnwyr yn ‘22’ Llandudno ag yna, yn ôl i’r chwith lle bu i Gwion groesi’n y gornel.

Wedi 10 munud o chwarae, enillodd Nant dafliad i mewn, eto y nagos i linell yr ymwelwyr. Pasiwyd y bȇl ymysg y cefnwyr eto a bu i Ellis Fôn (rhif 10) ddod ar lŵp i groesi am yr ail gais – un a droswyd gan Caron Davies (12 – Capten)

Ar 17 munud, enillodd Nant sgrym fymryn yn eu hanner eu hunain a chyda phasio cywrain eto ymysg y cefnwyr, plymiodd Gwion trosodd am ei ail gais o’r gȇm.

Am ail chwarter yr hanner cyntaf gwelwyd newid yn y chwarae gyda Llandudno’n ymosod a Nant yn amddiffyn yn gadarn. Y duedd oedd i’r ymwelwyr gario’r bȇl ymysg y blaenwyr heb ennill fawr o dir. Ni sgoriwyd unrhyw bwyntiau’n y cyfnod hwn.

Am 10 munud cyntaf yr ail hanner, ni newidiodd y patrwm unwaith eto gyda’r ymwelwyr yn parhau i ymosod yn gyson. Ond, enillodd Nant y bȇl mewn ryc y tu allan i’w ‘22’ eu hunain ag i ffwrdd a’r cefnwyr gan orffen y symudiad wrth i Deian Roberts (14) sgorio ger y pyst a llwyddodd Caron gyda’r trosiad i ennill y pwynt bonws am sgorio 4 cais.

Dychwelyd i’r un patrwm wedyn gyda Llandudno’n chwarae ymysg y blaenwyr a Nant yn amddiffyn yn ddyfal. Ond, wedi 34 munud o’r ail hanner, bu i Nant gael gafael ar y bȇl yn eu hanner eu hunain a gwelwyd ymosodiad celfydd gan rai o’r cefnwyr ar yr asgell chwith a orffenodd gyda Gwion yn cael ei ‘hat tric’ o geisiau. Caron yn llwyddo gyda’r trosiad eto.

Dau funud yn ddiweddarach, bu i’r eilydd Cain Jones (22) ennill y bȇl mewn ryc yn dilyn cyfnod o bwyso ar linell yr ymwelwyr a phlymio trosodd am gais a droswyd gan Caron.

O’r ail ddechrau yn dilyn sgorio’r cais, gwelwyd blaenwyr Llandudno’n chware’n debyg i’r hyn a wnaethant drwy’r gȇm gyda’r gwahaniaeth y tro hwn i gais (a throsiad) gael ei sgorio yn dilyn cyfres o dair chwibanaid am gam ymddwyn gan Nant ychydig tu allan i’w llinel i roi sgôr o 38 – 7.

Ond nid dyma ddiwedd y sgorio. Yn eiliadau olaf y gȇm, gwelwyd chware tebyg i’r gwrthwynebwyr gan flaenwyr Nant y tro hwn gyda’r symuniad olaf, fwy neu lai, yn dod trwy bas hir i Caron a dorrodd drwodd i sgorio’r cais olaf a throsi’i gais ei hun.

Sgôr derfynol o 45 – 7 felly.

Dydd Sadwrn nesaf, gobeithia Nant chwarae y tîm arall o Sir Conwy sy’n chware yn Adran 1 y Gogledd,sef, Bae Colwyn. Bydd y gem honno i ffwrdd yn y Bae ag edrychir ymlaen yn fawr at ymweld ȃ’r Bae.


As a child, I used to play ‘Attack and Defence’ games with a small number of my football friends. I suppose that term ‘attack and defence’ is very fitting for this game.

During the first quarter, Nant was seen attacking constantly and the visitors trying their best to defend. After 4 minutes of play, Nant’s number 13, Gwion Jones, scored his first of three tries. Nant was passing the ball from left to right between the backs in Llandudno’s ‘22’ and then back to the left where Gwion managed to cross in the corner.

After 10 minutes of play, Nant won a throw-in, yet again close to the visitors’ line. The ball was passed among the backs again and Ellis Fôn (number 10) came on a loop to cross for the second try – one converted by Caron Davies (12 – Captain).

At 17 minutes, Nant won a scrum just in their own half and with some neat passing again among the backs, Gwion dived over for his second try of the game.

In the second quarter of the first half, there was a change in play with Llandudno attacking and Nant defending solidly. The tendency was for the visitors to carry the ball among the forwards without gaining much ground. No points were scored during this period.

For the first 10 minutes of the second half, the pattern did not change again, with the visitors continuing to attack consistently. However, Nant quickly won the ball outside their own ‘22’ and ran away from the defenders, finishing the move as Deian Roberts (14) scored near the posts, and Caron succeeded with the conversion to earn the bonus point for scoring 4 tries.

The match returned to the same pattern then with Llandudno playing among the forwards and Nant defending doggedly. But, after 34 minutes of the second half, Nant gained control of the ball in their own half and a clever attack was seen by some of the backs on the left wing, finishing with Gwion completing his ‘hat trick’ of tries. Caron succeeded with the conversion again.

Two minutes later, substitute Cain Jones (22) won the ball in a ruck following a period of pressure on the visitors’ line and dived over for a try which was converted by Caron.

From the restart following the scoring of the try, Llandudno’s forwards played similarly to what they had done throughout the game, but with the difference this time being that a try (and conversion) was scored following a series of three penalties for misconduct by Nant just outside their line to give a score of 38–7.

But this was not the end of the scoring. In the final moments of the game, similar play to that seen from the opponents was played by Nant. Nant’s forwards this time making the final move, more or less, through a long pass to Caron who broke through to score the final try which he converted himself.

Thus a final score of 45 – 7.

Next Saturday, hopefully Nant will play the other team from Conwy County who play in Division 1 North, namely, Colwyn Bay. That game will be away at the Bay and we are really looking forward to visiting the Bay.

vs
vs
vs